We’ve updated our Terms of Use to reflect our new entity name and address. You can review the changes here.
We’ve updated our Terms of Use. You can review the changes here.

Taith

by Cass Meurig

/
  • Streaming + Download

    Includes unlimited streaming via the free Bandcamp app, plus high-quality download in MP3, FLAC and more.
    Purchasable with gift card

      £7.99 GBP  or more

     

  • Compact Disc (CD) + Digital Album

    Comes in digipac case with pull-out booklet including lyrics and full translations

    Includes unlimited streaming of Taith via the free Bandcamp app, plus high-quality download in MP3, FLAC and more.
    ships out within 1 day
    Purchasable with gift card

      £9.99 GBP or more 

     

1.
Ystwyll 04:16
1. Ystwyll Mathew 2:1-12 Alaw: Lisa Lân Rwyf yn dy garu, Iesu cu; Mor felys yw dy gwmni di. Tydi yw 'mrenin, ti yw 'Nuw, A hebddot ti ni fynnaf fyw. Pan o'n i'n rhodio'r llwybrau hir Goleuaist di fy ffordd yn glir; Wrth ddilyn d'arwydd di o'r nef Agosach wyf at weld dy wedd. Mi fûm yn ffôl, do, lawer gwaith Wrth geisio canfod pen y daith; Dioddef wnaeth ddiniwed rai, Ond dal i 'ngalw wyt, er fy mai. Fy rhoddion oll i ti rwy'n dwyn A'u rhoi o'th flaen, fy Iesu mwyn; Ond er i minnau dalu'n ddrud, Tydi yw trysor mwya'r byd. Fy Iesu annwyl, caraf di. Tydi sy biau 'mywyd i. Dilynaf di, fy annwyl ffrind Hyd ffordd y groes lle rwyt yn mynd. Epiphany Matthew 2:1-12 Tune: Lisa Lân I love you, beloved Jesus; Your company is so precious. You are my king, you are my God, And I can't live without you. When I was walking the long paths You clearly lit up my way; Following your sign from heaven I grow closer to seeing your face. I was unwise, many times, As I tried to find the journey's end; Innocent ones have suffered, But still you call me, despite my faults. I bring to you all my gifts And lay them before you, my sweet Jesus; But even though I paid dearly You are the world's greatest treasure. My dear Jesus, I love you It's you who owns my life. I will follow you, my dear friend, The way of the cross, where you are going.  
2.
Cariad 04:35
2. Cariad 1 Corinthiaid 13 Alaw: Aderyn Du a'i Bluen Sidan Aderyn du, a'i bluen sidan, A'i big aur a'i dafod arian, Tro dy ben i ni gael siarad A dywed imi, pa beth yw cariad? Wel, dyma beth ddywedaf i ti Os mai barod wyt i oedi; Dysgais hyn drwy daith ar hirnos: Bod cariad pur yn hirymaros. Y mae cariad yn garedig, Nid yw'n mynnu ei ffordd yn styfnig, Nid yw'n digio, nac yn pwdu, Na'n cyfrif cam, na'n cenfigennu. Mae pob tro yn goddef popeth, Mae pob tro yn cadw gobaith, Mae pob tro yn dal i gredu, Y mae gwir gariad yn dal ati. Un, dau, tri pheth sydd ddim yn darfod O bob peth da ni'n ei nabod; Ffydd, gobaith, cariad, o'r holl gread: A'r mwyaf o'r rhain i gyd yw cariad. Love 1 Corinthians 13 Tune: Aderyn Du a'i Bluen Sidan Blackbird, with your silken wing, And golden beak and silver tongue, Turn your head, that we may speak And tell me, what is love? Well, this is what I'll tell you If you will only wait awhile; This I learned one long night's journey: That pure love is patient. Love is kind, It doesn't insist on it's own way, It doesn't get angry or resentful Or keep count of wrongs, or envy. It always bears all things, It always keeps on hoping, It always keeps believing, True love perseveres. One, two, three things still abide Of every thing that we know; Faith, hope and love, of all of creation: And the greatest of these is love.
3.
Cread 03:57
3. Cread Salm 115:11-18 Alaw: Mae'r ddaear yn glasu Fe greodd ein Harglwydd Ryfeddod y nefoedd; Biliynau o flynyddoedd Gymerodd ein Tad. Holl sêr y bydysawd, Pob galaith, pob cysawd, Fe luniodd eu rhawd o'r dechreuad. Ac eiddo'r Un Nerthol Y gofod anferthol, Ond rhoddodd yn ei ganol Ein daear fach ni; A threfnodd esblygu Pob dim sydd yn tyfu A phobl i ofalu amdani. A mewn un man di-nod O'r byd a'r holl ofod Dewisodd y Duwdod Un teulu bach tlawd I eni a meithrin Mewn cartref cyffredin Greawdwr a brenin y bydysawd. O'r llecyn anhysbys Yn unol â'i 'wyllys Fe drefnodd Duw ddatrys Broblemau ein dydd; Caiff pob drwg ei drechu Drwy aberth yr Iesu, A'r byd ei adnewyddu'n dragywydd. Mae Duw yn ein cofio; Cawn ymddiried ynddo. Mae Ef yn ein bendithio A'n helpu o hyd; A dyna ei fwriad Cyn dechrau'r holl gread Sef rhannu ei gariad a'i fywyd. Creation Psalm 115:11-18 Tune: Mae'r ddaear yn glasu Our Lord created The wonders of the heavens; Millions of years It took our Father. All the stars of the universe, Every galaxy, every constellation, He planned their way from the start. And the Mighty One owns The vastness of space, But he placed in its centre Our little earth; And arranged the evolution Of everything that grows And people to care for it. And in one insignificant place In the world and all of space The Godhead chose One poor little family To bear and nurture In a common home The creator and king of the universe. From this inconspicuous place According to his will God set out to solve The problems of our day; Every evil will be conquered Through Jesus' sacrifice And the world will be renewed eternally. God remembers us; We can trust in him. He blesses us And helps us all the time; And this was his intention Before the beginning of all creation: To share his love and his life.  
4.
Jona 06:01
4. Jona Jona 1-4 Alaw: Ambell i gân Jona, o Jona, pam wyt ti am ffoi? Mae Duw yn dy alw a thithau am droi. Paid bod mor ystyfnig, ti'n gwybod yn well! Ni fedri di guddio, er hwylio mor bell. Jona, o Jona, pam wyt ti mor fud? Mae'r storm o dy gwmpas; ti'n cysgu yn glyd. O cod o dy wely ac ateb yn glir: Pwy wyt ti a phwy yw yr unig Dduw gwir? Jona, o Jona, pam wyt ti mor llwfr  gofyn i eraill dy daflu i'r dŵr? Ni fedri di ddianc drwy weithred mor wan: Mae'r Duw ti'n addoli yn Arglwydd pob man! Jona, o Jona, mae'n edrych mor ddu O fol y pysgodyn yng nghanol y lli... Tri dydd a thair noson rhwng marw a byw Ai rwan ti'n dechrau gweddïo ar Dduw? Jona, o Jona, yn saff ar y traeth, Mae'r siwrne o'th flaen di yn hir ac yn faith. Paid colli dy hyder, paid blino yn llwyr; Mae angen dy neges yn hwyrach neu'n hwyr. Jona, o Jona, cyflawnaist dy nod: Cyhoeddaist i'r gelyn bod dial i ddod. Pam wyt nawr yn pwdu am ddeugain dydd braf? Cei weld yw dy Dduw di am achub neu ladd. Jona, o Jona, pam wyt ti mor flin? Gwrandawodd y bobl a phlygu penglin! Pob dyn a chreadur yn edifarhau; Ond ydyw yn iawn i dy Dduw drugarhau? Jona, o Jona, dwêd beth ddysgaist di Am farn a thrugaredd, am Arglwydd y lli? Meddala dy galon, ac agor dy glyw: Cei brofi dy hunan mai cariad yw Duw. Jonah Jonah 1-4 Tune: Ambell i gân Jonah, oh Jonah, why do you flee? God is calling you and you're running away. Don't be so stubborn; you should know better! You can't hide, however far you sail. Jonah, oh Jonah, why are you so silent? The storm is around you; you sleep so snug. Get up from your bed and answer me clearly: Who are you and who is the only true God? Jonah, oh Jonah, why are you so cowardly As to ask others to throw you into the water? You can't escape through such a weak act: The God you worship is Lord of everywhere! Jonah, oh Jonah, it looks so dark In the fish's belly amid the sea's foam... Three days and nights between death and life Are you only now starting to pray to God? Jonah, oh Jonah, safe on the beach, The journey ahead of you is long and far. Don't lose your courage, don't get too tired; Your message is needed, sooner or later. Jonah, oh Jonah, you achieved your aim: You announced to the enemy that vengeance is nigh. Why now do you sulk for forty long days? You'll see if your God wants to save or destroy. Jonah, oh Jonah, why are you so cross? The enemy listened and prayed on their knees! Every man and every creature repented; Isn't it right that your God should show mercy? Jonah, oh Jonah, say what did you learn About grace and mercy, about God himself? Soften your heart, and open your ears: You'll find out for yourself that God is love.
5.
Addewid 04:38
5. Addewid Eseia 43:1-7 Alaw: Mil Harddach Wyt 'O paid ag ofni,' dywed Duw; 'Rwy'n addo, gwnaf dy achub di. A galwaf ar dy enw'n glir; Ti'n eiddo i mi. 'Pan fyddi'n mynd drwy'r dyfroedd dwfn Mi fyddaf yno gyda thi; Wrth groesi’r afon wyllt ei llif Ni suddi di. 'Pan fyddi'n mynd drwy fflamau'r tân Ni chaiff eu gwres dy losgi di; Ni chei dy ddifa, f’annwyl un, Dy Dduw wyf fi. 'Mor werthfawr yn fy ngolwg wyt, Gwlad gyfan roddwn drosot ti; Fy ngogoneddus, annwyl un, Fe’th garaf di. 'I bedwar ban y byd yr awn I'th gasglu yn fy mynwes i; Mae f'enw arnat, fi a'th wnaeth, Rwyf gyda thi.' Promise Isaiah 43:1-7 Tune: Mil Harddach Wyt 'Oh do not fear,' says God, 'I promise I will save you. And I will call your name clearly; You are mine. 'When you pass through deep waters I will be there with you; When you pass through the raging river You will not sink. 'When you pass through the fire's flames Their heat shall not burn you; You will not be harmed, dear one, I am your God. 'You are so precious in my sight, I would give a whole country for you; My glorious, dear one, I love you. 'I would go to every corner of the world To gather you in my bosom; You bear my name, I made you; I am with you.'
6.
Clwyfau 06:27
6. Clwyfau 1 Pedr 2:24 Alaw: Yr eneth gadd ei gwrthod 'a thrwy ei glwyfau ef y cawsoch iachâd' Ar lan hen afon dagrau hallt Eisteddais yn glwyfedig, Gan deimlo baich cywilydd trwm A thristwch calon unig. 'Does neb i leddfu 'mhoenau dwfn, Na nunlle i ddianc iddo; Mae drws pob cysur wedi ei gloi: Rwy'n wrthodedig heno.' Ond wrth im eistedd yno'n drist Yn cyfrif fy nghamweddau, Mi deimlais bresenoldeb cu Yn nesu ataf finnau. A chredaf imi glywed llais Llawn cysur a maddeuant Yn galw'n dyner arnaf, 'Tyrd, Yng ngwaed y groes cei welliant.' Ac at y groes dof innau'n awr Â'm clwyfau a'm diffygion, At Un a brofodd boen a gwawd Dan gondemniad dynion, A dygodd yn ei gorff ein gwarth, Yn ufudd i gyfiawnder, A galw ninnau i fyw, yn rhydd, Wir fywyd yn ei lawnder. Drwy waed ei aberth perffaith llawn Rwy'n iach o'm holl bechodau, A gwaed ei glwyfau, digon yw I wella 'mriwiau innau. O, cannaf f'enaid yn y gwaed Lle nad oes dim condemnio, A derbyn Iesu fel yr wyf, A chael fy nerbyn ganddo. A hedeg mae fy meddwl fry At fyd sydd eto'i ddyfod Heb boen na chur, lle gallaf i Yn llawen, ei gyfarfod, A chyffwrdd creithiau'i annwyl gorff A chael ei gwmni beunydd; Yn hedd a chariad perffaith Duw Caf innau fyw'n dragywydd. Wounds 1 Peter 2:24 Tune: Yr eneth gadd ei gwrthod 'by his wounds you have been healed' Beside a river of salt tears There I sat, wounded, Feeling the heavy weight of shame And sadness of a lonely heart. 'There is no-one to soothe my deepest pain, And nowhere to escape; The door to comfort is locked: I am rejected tonight.' But as I sat there sorrowfully Counting my wrongdoings, I felt a dear presence Come close to me. And I believe that I heard a voice Full of comfort and forgiveness Calling tenderly to me, 'Come, In the blood of the cross you can be healed.' And now I come to the cross With my wounds and imperfections, To one who tasted pain and scorn Under man's condemnation, And bore in his body our shame, Obedient to justice, And calls us to live, in freedom, True life in all its fullness. Through the blood of his perfect sacrifice I am healed of all my sins, And the blood of his wounds is sufficient To heal my own pain. Oh, I cleanse my soul in the blood Where there is no condemnation, And accept Jesus as I am, And am accepted by him. And my thoughts fly up ahead To a world which is yet to come Without pain or ache, where I may Joyfully, meet him at last, And touch the scars on his dear body And enjoy his company daily; In the perfect peace and love of God I will live eternally.
7.
Ffydd 04:24
7. Ffydd Hebreaid 11.1-12:3 Alaw: Myn Mair Fy mhryder offrymais i'r Arglwydd mewn ffydd; Ymprydiais yn gyson drwy'r Grawys i gyd, Darllennais fy Meibl, gwrandewais am air, Drwy'r nos yn fy nagrau gweddiais yn daer Drwy ffydd, drwy ffydd. Nawr, ffydd ydy'r sicrwydd, er na welaf i, Bod Duw yn y nefoedd sy'n gwrando fy nghri. Nid gobaith yn unig - realiti yw Y gallaf ymddiried pob pryder i Dduw Drwy ffydd, drwy ffydd. Drwy ffydd adeiladodd 'rhen Noa ei arch, Gan wrando ar rybudd yr Arglwydd mewn parch; Drwy ffydd yr aeth Abram ar siwrne go faith, Yn ufudd i'r alwad, heb weld pen y daith, Drwy ffydd, drwy ffydd. Bu Moses yn cadw'r Pasg cyntaf mewn ffydd, Ac arwain y bobl drwy'r dyfroedd yn rhydd, Drwy ffydd yr aeth Dafydd i ymladd yn ddewr, A ffydd cadwodd Daniel o afael y llew, Drwy ffydd, drwy ffydd. A rhain fuont farw heb weled y dydd I aberth yr Iesu berffeithio eu ffydd; Drwy ddioddef ar groes a thrwy dywallt ei waed, Ffordd newydd agored i'r nefoedd a wnaed Drwy ffydd, drwy ffydd. Wel gyda'r holl dystion a gredodd o'r blaen Dal ati wnaf innau; mewn ffydd af ymlaen Gan fwrw anobaith a phryder ymaith, A hoelio fy sylw ar Iesu drwy'r daith Drwy ffydd. Faith Hebrews 11.1-12:3 Tune: Myn Mair I offered my anxiety to the Lord in faith; I fasted constantly all throughout Lent, I read my Bible, I listened for a word, All night long in tears I prayed in earnest By faith, by faith. Now, faith is the assurance, though I may not see, That there is a God in heaven who hears my cry. Not only a hope - this is reality, That I can entrust every worry to God By faith, by faith. By faith old Noah built his ark, Listening with care to the Lord's warning; By faith Abraham went on a very long journey, Obedient to the call, knowing not where it led, By faith, by faith. By faith Moses kept the first Passover, And led the people through the waters to freedom, Through faith David went to fight bravely, And faith kept Daniel from the lion's claws, By faith, by faith. And these all died before seeing the day That Jesus' sacrifice perfected their faith; By suffering on a cross and shedding his blood A new way to heaven was opened By faith, by faith. Well with all these witnesses who believed in the past, I'll persevere; I'll go on in faith, Thrusting despair and anxiety away And fixing my eyes on Jesus throughout the journey By faith.
8.
Gobaith 04:53
8. Gobaith Eseia 43:10-13, 44:3-5 Alaw: Aderyn Pur Rwy'n ymbil ar yr Ysbryd Glân I wrando 'nghân a'm gweddi, A brysio i siarad wrth y rhai Sy'n gaeth i fai a thrueni. Rhanna'n sicrwydd a'n llawenydd: Tystion ydym oll i'r Arglwydd. Ef sy'n maddau ein troseddau Heb alw i gof ein holl bechodau; A dyma'n gobaith, drwy ein ffydd, Y down yn rhydd o'n clwyfau. O dyma'r hyn a ddywed Duw, Ein Harglwydd byw a grymus: 'Paid meddwl am y pethau gynt, Na dilyn hynt hen hanes. Ond edrychwch! Oni welwch? Rwyf yn gwneud peth newydd; sylwch! Tarddu'n ddibaid o flaen eich llygaid Mae ffrydiau o foliant pur o'r enaid. Mae clod yn codi o'r cread crwn; Mae'r tristwch hwn yn afraid. 'Rwy'n agor priffordd lydan glir Ar draws holl dir yr anialwch. Afonydd pur sy'n lledu nawr i ddyfrhau llawr y diffeithwch. Tywallt law ar dir sychedig, Ffrydiau glân ar grindir gwledig; Dŵr i 'mhobl, y rhai dethol A luniais iddynt oll fy nghanmol. Fy mendith rhof i chi a'ch had Sy'n eiddo'r Tad tragwyddol.' Hope Isaiah 43:10-13, 44:3-5 Tune: Aderyn Pur I implore the Holy Spirit To hear my song and prayer, And hasten to speak to those Who are slaves to blame and pity. Share our certainty and our joy: We are all God's witnesses. It is he who forgives our offences Without calling to mind all our sins; And this is our hope, through our faith, That we will become free of our wounds. For this is what God says, Our living, mighty Lord: 'Don't think about the former things, Or dwell upon the past. Just look! Can't you see? I am doing a new thing: watch! Springing forth before your eyes Are streams of pure heartfelt worship. Praise is rising from all of creation; There is no need for this sadness. 'I am opening a wide, clear highway Across the desert land. Pure rivers are spreading now To water the wilderness. Pouring rain on thirsty land, Clear streams on parched country; Water for my people, the chosen ones Whom I formed to praise me. My blessing I give to you and yours Who belong to the eternal Father.'
9.
Eneinio 03:30
9. Eneinio Effesiaid 1:17-19 Alaw: Dod dy law Rho dy law: yr wyf yn coelio Mai tydi sydd yma heno, A chaf glywed, os gwrandawaf, Sŵn dy dawel lais hyfrytaf. Rho dy Ysbryd, imi ganfod Pa mor felys yw d'adnabod; Rho ddoethineb a datguddiad O'r gwir obaith yn dy alwad. Dyro olwg ar y cyfoeth Sydd yn rhan o d'etifeddiaeth, Ac mor fawr yw'r nerth a'r gallu Sydd ar gael i ni sy'n credu. Rho dy law, fy Arglwydd tirion, Ar fy mhen ac ar fy nghalon, Dy gyffyrddiad a'th eneinio: Dyna rwy'n ei geisio heno. Anointing Ephesians 1:17-19 Tune: Dod dy law Give me your hand, for I believe That you are here tonight, And I can hear, if I listen, Your quiet, loveliest voice. Give me your spirit, that I may find How precious it is to know you; Give me wisdom and revelation Of the true hope in your calling. Give me a vision of the riches Which are part of your inheritance, And how great is the strength and power Given to us who believe. Give me your hand, my sweet Lord, On my head and on my heart, Your touch and your anointing: That is what I seek tonight.  
10.
Teyrnas 03:21
10. Teyrnas Mathew 13:31-33, 44 Alaw: Hiraeth Tebyg i hyn mae teyrnas Dduw Tebyg i hyn mae teyrnas Dduw Fel y lefain yn y blawd, Wedi ei guddio a’i dylino; Eto’n tyfu yn y dirgel Nes caiff y cwbl ei lefeinio. Fel yr hedyn lleiaf un, Wedi ei guddio’n anweledig; Eto’n tyfu’n llwyn canghennog Lle caiff yr adar nythu’n ddiddig. Fel y trysor yn y cae, Wedi ei guddio, wedi ei gladdu; Eto rhywun, wedi ei ganfod, Werthodd y cwbl er ei brynu. Kingdom Matthew 13:31-33, 44 Tune: Hiraeth This is what the kingdom of God is like This is what the kingdom of God is like Like the leaven in the flour, Hidden and kneaded, But growing in secret Until it was all leavened. Like the smallest of the seeds, Hidden and invisible; But growing into a bush with branches Where the birds could nest peacefully. Like the treasure in the field, Hidden and buried; But someone who found it Sold all he had to buy it.
11.
Taith 04:35
11. Taith Exodus 13:21, Ioan 8:12 Alaw: Tra Bo Dau O Dduw ein Tad, cyfeiria'n traed A'n tywys ni ar ein taith; Dangosa'r ffordd drwy gwmwl a thân Fel gwnaethost lawer gwaith. Ynot ti, Arglwydd, gobeithiwn, Ynot ti rhown ein holl ffydd, Ar hyd ein siwrne arwain ni Yng nghwmni Crist bob dydd. O Iesu Grist, goleuni'r byd, Ein cyfaill gorau wyt ti; Pan fo tywyllwch ar bob llaw Goleua'r ffordd i ni. O Ysbryd Glân, rho gymorth i ni Ym mhob un dewis a chais; I garu Duw a gwneud ei waith, A gwrando ar dy lais. O Dduw y Drindod, sanctaidd un, Ein beichiau rown i ti, Dy nerth sy'n ddigon at y daith Lle'r ei, dilynwn ni. Journey Exodus 13:21, John 8:12 Tune: Tra Bo Dau O heavenly Father, lead us on Our journey in your way; As long ago by fire and cloud Still be our guide today. You alone, Lord, are our vision, You alone, Lord, are our guide, O lead us on in faith each day With Jesus at our side. O Jesus Christ, light of the world, Our true companion and friend; When all is darkness, light the path Towards our journey's end. O Holy Spirit, guide our hearts In every desire and choice; Help us to love and freely serve, And learn to hear your voice. O holy God the three in one, Yours is the strength we need, We give to you our burdens now And follow where you lead.  
12.
Gras 03:39
12. Gras 2 Corinthiaid 13:14 Alawon: Dawns y Drindod/Consêt Ifan Glan Teifi Gras ein Harglwydd Iesu Grist Fyddo gyda ni oll, boed yn llon neu'n drist; Cyfaill enaid wyt i ni, Digon yw bod yn dy gwmni di. Mae dy wres yn rhoi cysur i'm hysbryd o hyd, A dy hedd yn bodloni fy nghalon fach, Ni fedraf dy weld, ond gwn dy fod yn agos, Yn cofleidio fi'n dyner a'm dal yn saff. Cariad Duw, mor ddwfn a llawn, Fyddo gyda ni beunydd, lle bynnag awn; Drindod sanctaidd a'th ddawns gron, Llanw ein bywyd â'th chwerthin llon. Mae dy lais yn fy ngalw, yn swynol a chlir, A dy ddwylo yn gafael amdana i, A dawnsiwn ni'n dau yn araf yn y golau A distawrwydd y nefoedd gyfeilia i ni. Cymdeithas bur yr Ysbryd Glân Fyddo gyda ni wrth i ni deithio 'mlaen; Ddwyfol dân, mor wyllt a rhydd, Nertha ni i ddilyn lle'r arwain di. Mae 'na lwybr o 'mlaen i ac arwydd fan draw, Ac mae'n edrych y bydd hi yn siwrne faith; Ni wn lle mae'n mynd, ond mae ôl dy draed yn arwain, A dw i'n gwybod caf gwmni i ben y daith. Grace 2 Corinthians 13:14 Tunes: Dawns y Drindod/Consêt Ifan Glan Teifi The grace of our Lord Jesus Christ Be with us all, whether joyful or sad; You are our soul friend, It is enough to be with you. Your warmth gives comfort to my spirit, And your peace satisfies my heart, Though I can't see you, I know you are close, Embracing me tenderly and holding me safe. The love of God, so deep and full, Be with us each day, wherever we go; Holy Trinity, with your circle dance, Fill our life with your merry laughter. Your voice calls me, enticing and clear, And your hands clasp around me, And the two of us dance slowly in the light And a heavenly silence accompanies us. The fellowship of the Holy Spirit Be with us as we travel on; Holy fire, so wild and free, Strengthen us to follow where you lead. There's a path ahead of me and a sign over there, And it looks as if it will be a long way; I know not where it goes, but his footsteps lead on, And I know I'll have company to my journey's end.

about

'Taith' ('Journey') is a collection of spiritual songs, a new project by musician Cass Meurig reflecting on her personal journey over the last few years.

After a successful career playing crwth and fiddle through Wales and abroad as a soloist and in folk bands including the well-known group Fernhill, Cass gave up performing and recording in order to follow a call to ministry in the Church in Wales. During this time of change she started writing songs in Welsh speaking of her experience and her faith, and setting them to traditional tunes. They are a meditation on the journey of life and on the Christian faith, taking inspiration from the Bible and folk songs.

In 2018 Cass decided to record the songs as a collection and teamed up with singer and guitarist Elise Gwilym. 'Taith' features Cass on lead vocals, fiddle, crwth and piano, accompanied by Elise on guitar and backing vocals, with double bass by Owen Lloyd Evans giving depth to the sound. The album is engineered and produced by the well-known violinist Billy Thompson at Thompsound Studio.

Taith is a collection for the soul. The songs range from the contemplative to the lively, from dark to light. With profound lyrics, beautiful traditional melodies and sensitive accompaniment, they touch the heart. Here are three musicians with nothing to prove, worshipping God through the medium of their art.

credits

released September 28, 2018

Cass Meurig: Voice, Fiddle, Crwth, Piano
Elise Gwilym: Guitar, Backing vocals
Owen Lloyd Evans: Double bass

license

all rights reserved

tags

about

Cass Meurig Wales, UK

About Cass

Cass Meurig is a Christian singer-songwriter and fiddle and crwth player living in Bala, North Wales. She has performed nationally and internationally as a solo artist and in folk bands including Fernhill and Pigyn Clust. Cass is known as one of Wales' foremost players of fiddle and crwth, a medieval bowed lyre which ranks as one of Wales' most exotic native instruments. ... more

contact / help

Contact Cass Meurig

Streaming and
Download help

Report this album or account

If you like Cass Meurig, you may also like: